Uned 17 - Darn Darllen 2 - Hen Ŵr Pencader

MP3 o'r darn darllen yn yr uned hon

An MP3 of the "darn darllen" from this unit.

HEN ŴR PENCADER
Yn amser y Tywysog Rhys ap Gruffydd, Harri’r Ail oedd brenin Lloegr. Brenin cryf iawn oedd e, ac yn 1163 daeth e â byddin fawr i Gymru. Cyrhaeddodd Bencader, ac roedd rhaid i Rhys ildio.
Roedd hen ŵr doeth yn byw ym Mhencader, a chafodd e ei alw o flaen y brenin a’i holi fel hyn,“Beth wyt ti’n ei feddwl am y fyddin fawr hardd sy ’da fi?” gofynnodd Harri.
“Wel, mae hi’n fyddin fawr hardd,” meddai’r hen ŵr. “Mae mwy o filwyr ’da chi nag a welais i erioed o’r blaen.”
“Ydy’r Cymry yn debyg o ymladd yn erbyn byddin fel hon, ac os gwnân nhw, pwy fydd yn debyg o ennill?” gofynnodd Harri.
Ar ôl meddwl am dipyn, atebodd yr hen ŵr doeth fel hyn, “Bydd cenedl y Cymry’n cael ei herlid eto fel o’r blaen. Bydd hi’n genedl wan ar ôl ymladd yn erbyn y brenin a’i luoedd, ond ni all yr un brenin, pwy bynnag yw e, fyth ddinistrio hon. Duw yn unig sy’n gallu gwneud hynny. Dw i ddim yn credu chwaith y bydd unrhyw iaith ond y Gymraeg yn cael ei lle ’ma.”
Doedd beth ddywedodd yr hen ŵr ddim wrth fodd y brenin, a phenderfynodd e fynd â Rhys yn ôl i Loegr gyda fe.